Cymorth

Y Cymhlethdodau Posib Oherwydd Diabetes

Clefydau Cardiofasgiwlar

Mae clefydau cardiofasgiwlar (CVD) yn cynnwys clefyd y galon, strôc a phob clefyd arall yn ymwneud â’r galon a chylchrediad y gwaed. Mae gan bobl gyda Diabetes tua ddwywaith y siawns o ddatblygu ystod o CVD, i’w gymharu â’r sawl heb y clefyd.

Mae ymchwil yn dangos fod gwella arferion bwyta, rheoli pwysau, cadw’n heini a defnyddio meddyginiaeth, lle mae’n briodol, yn lleihau y siawns o ddatblygu CVD. Mae clefyd cardiofasgiwlar yn rhan fawr o achosi marwolaeth ac anabledd i bobl gyda Diabetes a thrawiad y galon yw’r cymhlethdod cardiofasgiwlar mwyaf cyffredin i ddioddefwyr.

Clefyd yr Aren

Yr arennau sy’n didoli a glanhau y gwaed ac yn cael gwared o wastraff o’r corff drwy gynhyrchu troeth (urine). Mae Clefyd yr Aren yn cael ei achosi gan ddifrod i’r gwythiennau gwaed bychain sy’n amharu ar effeithiolrwydd yr aren, sy’n gallu arwain at fethiant yr aren yn y pen draw, ac mae’n llawer mwy cyffredin mewn pobl sy’n dioddef o Diabetes.

Mae cadw lefelau siwgr yn y gwaed mor normal a phosib, a phwysedd gwaed wedi ei reoli yn dda, yn gallu lleihau y risg o ddatblygu Clefyd yr Aren. Diabetes, yn gyffredinol, yw’r prif achos o Glefyd yr Aren terfynnol sy’n creu yr angen am ddialysis neu drawsblaniad.

Clefyd y Llygaid

Mae pobl gyda Diabetes yn gallu datblygu ‘Diabetic Retinopathy’ sy’n effeithio ar y gwythiennau gwaed sy’n cyflenwi y retina, y rhan o’r llygad sy’n gweld, a heb driniaeth mae’r cyflwr yn gallu difrodi y llygaid.

Mae rheoli lefelau siwgr yn y gwaed yn dda a rheoli pwysedd gwaed yn gallu cyfrannu at leihau y risg o ddatblygu’r cyflwr yma. Diabetes yw’r prif achos y mae pobl o oedran gweithio yn colli eu golwg yn ddiangen yng Nghymru.

Traed a Dwylo

Mae problemau gyda’r traed yn gallu amharu ar unrhywun gyda Diabetes ac os nad yw’r rheolaeth yn effeithiol. Mae’n gallu difrodi y nerfau, cyhyrau a chylchrediad y gwaed yn y traed a’r coesau. Gall hyn arwain at lawdriniaeth difrifol i dorri’r droed neu’r traed.

Mae cadw golwg rheolaidd ar draed pobl gyda Diabetes ynghyd â chadw lefelau siwgr yn y gwaed yn sefydlog a rheoli’r pwysedd gwaed yn dda yn gallu lliniaru y cymhlethdodau gyda’r traed.

Iselder Ysbryd

Gall pobl gyda Diabetes fod angen cefnogaeth emosiynol neu seicolegol o ganlyniad i fod yn byw gyda’r afiechyd. Mae derbyn diagnosis, datblygu un o’r cymlethdodau, effeithiau meddyginiaeth neu ddelio gyda’r cyfrifoldeb o hunan reoli y cyflwr o ddydd i ddydd i gyd yn gallu bod yn fwrn ar yr hwyliau. Mewn rhai achosion mae hyn yn gallu arwain at iselder ysbryd, pryder, anhwylderau bwyta a ffobia.

Mae ymchwil yn dangos fod pobl gyda Diabetes yn ddwywaith mwy tebygol o ddioddef o iselder ysbryd. Mae pobl sy’n dioddef o iselder ysbryd hefyd yn debygol iawn o ddatblygu Diabetes.

Difrod i’r Nerfau

Mae niwropathi yn achosi difrod i’r nerfau sy’n cario negeseuon o’r ymenydd i brif organau y corff. Mae difrod i’r nerfau yn effeithio ar bron hanner o bawb sydd gyda Diabetes.

Y ffordd orau o leihau y risg o ddatblygu niwropathi, neu ei atal o waethygu, yw rheolaeth dda o lefelau siwgr yn y gwaed.

Problemau Rhywiol

Mae anallu rhywiol corfforol yn gyffredin iawn ymysg dynion gyda Diabetes, yn effeithio ar rhwng tri a naw dyn ymhob deg gyda’r clefyd.

Mae’r effaith ar ferched gyda’r afiechyd yn fwy seicolegol na chorfforol.

Cymhlethdodau tra’n Feichiog

Mae beichiogrwydd yn cynnig trafferthion ychwanegol i wragedd gyda Diabetes.

Mae’r tebygolrwydd o ddatblygu cymhlethdodau yn gallu cael ei leihau yn sylweddol drwy reolaeth dda ar lefelau siwgr yn y gwaed cyn, ac yn ystod, beichiogrwydd. Mae babanod merched gyda Diabetes yn wynebu tebygolrwydd llawer yn uwch o gymhlethdodau, i’r fath raddau fod rheolaeth dda o’r cyflwr yn hanfodol.

Gorddryswch (Dementia)

Mae pobl gyda Diabetes yn llawer mwy tebygol o ddioddef o orddryswch.

Mae rhai damcaniaethau newydd yn awgrymu fod cysylltiad rhwng lefelau uwch o insulin yn y gwaed a gorddryswch. Gan fod hyn yn cael ei achosi gan ormod o siwgr yn y gwaed, mae rheoli y lefelau yma yn dda yn bwysicach byth.

Dylai dioddefwyr Diabetes sy'n ystyried addasu eu ffordd o fyw gysylltu a'u hymgynghorydd iechyd cyn gwneud unrhyw newidiadau.