Beth yw Symptomau Diabetes?
Cynnydd Mewn Syched a Phasio Dŵr yn Aml
Mae’r angen i ddefnyddio’r toiled yn fwy aml, yn enwedig yn ystod y nos, yn nodwedd cyffredin o Diabetes. Mae syched parhaol ac angen yfed drwy’r amser yn gyffredin iawn.
Colli Pwysau Annisgwyl
Mae colli pwysau sylweddol heb reswm amlwg yn aml yn gysylltiedig gyda dyfodiad Diabetes.
Blinder Eithriadol a Difaterwch
Mae bod yn or-flinedig, yn enwedig yn y bore neu ar ddiwedd y prynhawn, yn gallu bod yn arwydd fod eich corff yn cael trafferth i gyfnewid siwgr i mewn i ynni.
Teimlo eich bod yn Llwgu
Pan ydych yn dioddef o Diabetes, rydych yn profi newidiadau eithriadol yn lefelau siwgr yn y gwaed sy’n gallu gwneud i chi deimlo eich bod yn llwgu drwy’r amser.
Traed a Dwylo yn Ddi-deimlad
Mae diffyg teimlad mewn dwylo a thraed yn gallu digwydd pan fo eich corff yn profi lefelau uchel cyson o siwgr yn y gwaed. Fel canlyniad, gall hyn ddifrodi eich system nerfol gan achosi diffyg teimlad neu ferwindod yn y traed a’r dwylo.
Problemau gyda’r Croen
Mae croen sych iawn a chosi yn y mannau tynner yn arwydd o Diabetes.
Briwiau yn Gwella yn Araf
Arwydd cyffredin o Diabetes yw anallu y corff i wella briwiau yn yr amser arferol.
Anniddigrwydd
Mae newidiadau yn lefelau siwgr yn y gwaed yn achosi anniddigrwydd sy’n gysylltiedig a Diabetes. Mae ymddygiad croen denau (yn arbennig yn y bore) yn rhan annatod o’r cyflwr.
Problemau gyda’r Llygaid
Mae person gyda Diabetes yn gallu cael trafferth gweld yn glir ar adegau. Lefelau uchel o siwgr yn y gwaed sy’n achosi’r broblem.