Cymorth

Bwyd Carb Isel

Llysiau

Llysiau yw’r math o fwyd a ddylai fod yn amlwg iawn yn eich deiet carb isel ac fe ddylai llysiau fod yn hanner o leiaf o bob pryd. Mae rhai llysiau megis tatws yn cynnwys lefelau uchel o garbohydradau ond mae llysiau ar y cyfan yn iach iawn i’w bwyta.

Dewiswch ddetholiad eang o lysiau o wahanol liwiau gan fod pob un yn meddu ar wahanol faeth ac rydych yn fwy tebygol o gael maeth cyflawn tra’n bwyta amrywiaeth dda o fwyd.

Protîn

Mae bwyta digon o brotîn yn sylfaen gadarn i’r rhan fwyaf o fwydlenni carb isel.

Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwydydd yn cynnwys protîn o safon uchel—cig oen, cig eidion, cig moch, cyw iar ac hefyd llaeth, wyau, menyn a chaws. Mae bwyd môr a physgod hefyd yn ffynonellau gwych o brotîn.

Ffrwythau

Mae nifer o ffrwythau yn llawn siwgr, felly mae’n rhaid dewis yn ofalus. Yn lwcus iawn mae llawer o’r ffrwythau gyda llai o siwgr ynddynt, fel aeron a melon, yn uwch mewn maeth a daioni.

Mae y rhan fwyaf o bobl sy’n dilyn bwydlen carb isel yn gallu bwyta un darn o ffrwyth bob dydd.

Brasder Iach

Mae’n bwysig diwallu eich anghenion am frasder angenrheidiol drwy fwyta pysgod olewog fel eog, mecryll neu tiwna. Mae nifer o blanhigion olewog hefyd fel olewydd, afocado a chnau ac mae’r bwydydd yma wedi profi i fod yn fanteisiol iawn i’r iechyd.

Erbyn hyn ni ystyrir fod brasder dirlawn (saturated fats) yn ddrwg i iechyd o gwbwl a dylai pobl sy’n dilyn ffordd o fyw carb isel gael nifer o galoriau bob dydd o’r bwydydd yma.

Ymysg y cynnyrch sy’n cynnwys brasder dirlawn mae menyn, caws, hufen a llaeth cyflawn.

Cynnyrch Llaeth

Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn cynnwys rhywfaint o siwgr a charbohydradau a dylid bod yn ofalus faint yr ydych yn bwyta o’r bwydydd yma bob dydd. Mae’n ddoeth i ddewis cynnyrch gyda brasder cyflawn sydd yn naturiol yn cynnwys llai o siwgr bob tro ac osgoi unrhywbeth sy’n ‘isel mewn brasder’ neu wedi ei brosesu.

Mae iogwrt yn gallu bod yn rhan o’r fwydlen ond iogwrt plaen (arddull Groegaidd) brasder cyflawn sydd orau, a gallwch ychwanegu aeron neu ffrwythau os y dymunwch.

Dylai dioddefwyr Diabetes sy'n ystyried addasu eu ffordd o fyw gysylltu a'u hymgynghorydd iechyd cyn gwneud unrhyw newidiadau.