Cymorth

Bwydydd i’w Hystyried yn Ofalus

Diodydd Melys a Phefriog

Yn ddiamau, dyma’r diodydd sydd fwyaf dinistriol i iechyd pobl gyda Diabetes. Mae diodydd pefriog yn cynnwys hyd at 50g o siwgr fesul potel 500ml.

Sudd Ffrwythau a ‘Smoothies’

Er mawr boendod i bawb sy’n caru sudd frwythau, mae rhai sudd ffrwythau yn cynnwys hyd yn oed mwy o siwgr na’r 50g sy’n bresennol yn y diodydd pefriog. Y cam cyntaf i fyw yn fwy iach yw i beidio yfed diodydd melys, diodydd pefriog na ‘smoothies’. Roedd Dewi Sant yn iawn, dŵr yw’r diod iachaf o bell ffordd!

Grawnfwyd

Mae grawnfwyd brecwast yn llawn siwgr a charbohidradau ac nid yn faethlon o gwbwl. Mae hyd yn oed y mathau ‘iachus’ megis y rhai organig neu gyfanfwyd yn mynd i achosi i lefelau y siwgr yn y gwaed i godi yn sydyn. Am Beth gael brecwast poeth yn ei le? – mae bacwn ac wŷ yn frecwast carb isel bendigedig.

Melysion a Chacennau

Mae’r cynnwys uchel o siwgr yn y cynhyrchion yma yn heriol iawn i bobol hefo Diabetes ac nid oes unrhyw faeth defnyddiol ynddynt. Dylai’r bwydydd yma gael eu hosgoi yn gyfangwbwl.

Tatws a Chynhyrch Tatws

Mae tatws o bob math, a chynhyrchion tatws (sglodion, creision, ayyb) yn llawn carbohydradau ac yn fygythiad sylweddol i gael rheolaeth dda ar y siwgr yn y gwaed. Mae’n well dod o hyd i fwyd amgen cyn gynted a bo’r modd.

Blawd, Bara a Bisgedi

Mae pob math o fara, hyd yn oed bara grawn cyfan, yn un o’r prif bethau sy’n achosi i lefelau y siwgr yn y gwaed i godi yn sydyn. Mae torri i lawr o ddifrif ar fwyta bara yn un o’r sialensau mwyaf sy’n wynebu rhywun sy’n mabwysiadu ffordd o fyw carb isel. Mae’r un peth yn wir am unrhyw fwyd sy’n cynnwys blawd (cacennau, crempogau, sawsiau ayyb) er fod blawd carb isel yn awr yn dechrau dod ar gael. Yn drist iawn i nifer, mae’n rhaid taflu y blwch bisgedi! Mae craffu ar gynhwysion unrhyw fisged yn dangos fod yna drwch sylweddol o siwgr ym mhob un. Mae’n rhaid rhoi’r gorau i’r arferiad o gael bisgedi gyda phaned os am gael unrhyw siawns o gael rheolaeth dda ar lefelau siwgr yn y gwaed.

Pasta a Reis

Mae pasta a reis, oherwydd eu bod yn cynnwys lefelau uchel o garbohydradau, yn gallu achosi difrod go iawn ar eich lefelau siwgr yn y gwaed. Mae cyfran mor fach a 150g o reis yn gyfystyr a naw llwyed o siwgr ac yn sicr o greu problemau.

Margarine

Mae ‘margarine’ allan ac mae menyn yn ôl! Er ei fod wedi ei hyrwyddo fel cynnyrch iach yn lle menyn, mae ‘margarine’ yn creu difrod go iawn i’r corff. Yn bennaf oherwydd fod ‘margerine’ yn llawn ‘trans fat’ sydd yn gynnyrch artiffisial a pheryglus. Dylech osgoi ‘margarine’ a bwyta menyn yn ei le!

Cynhyrchion Isel Mewn Brasder

Y grŵp olaf o fwydydd sydd heb le iddyn nhw mewn ffordd o fyw carb isel yw y rhai sy’n cael eu marchnata fel cynhyrchion isel mewn brasder. Dros y blynyddoedd mae brasder wedi cael ei feio ar gam ac mae’r honiadau fod cysylltiad rhwng bwyta brasder a chynnydd mewn colesterol a phroblemau hefo clefyd y galon wedi cael eu gwrthbrofi yn gyson. Mae’r gwaith o greu cynnyrch isel mewn brasder yn golygu prosesu difrifol. Mae hyn yn cynnwys ychwanegolion a blas artiffisial a chemegau yn cael eu ychwanegu i wneud y cynnyrch yn fwytadwy.

Dylai dioddefwyr Diabetes sy'n ystyried addasu eu ffordd o fyw gysylltu a'u hymgynghorydd iechyd cyn gwneud unrhyw newidiadau.