Amdanom Ni

Cefndir

Mae Cymorth Diabetes Cymru yn ymgyrch yng Nghymru wedi ei sefydlu gyda’r bwriad o greu rhwydwaith o grwpiau hunan help cymunedol i hyrwyddo rheoli Diabetes drwy ddisgyblaeth bwyta ac ymarfer corff cymhedrol.

Mae Cymorth Diabetes Cymru yn dymuno gweithio gyda pawb sy’n weithgar yn y maes ar hyn o bryd yng Nghymru a thu hwnt i gynnig ystod ychwanegol o gefnogaeth i ddioddefwyr Diabetes ac i gynorthwyo unigolion i liniaru effeithiau y clefyd drwy newidiadau yn eu ffordd o fyw.

Credwn mai grwpiau wedi eu lleoli mewn cymunedau lleol yw’r ffordd orau o rannu gwybodaeth ac ysgogaeth i nifer sylweddol o gleifion ac fod gweithredu fel hyn yn fwy derbynniol i’n diwylliant o fewn ein cymuned o gymunedau yma yng Nghymru.

Mae swyddogion Cymorth Diabetes Cymru gyda phrofiad sylweddol gyda ymgyrchoedd elusennol cenedlaethol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf (Cerddwn Ymlaen a Her Cylchdaith Cymru) ac mae ganddynt rwydwaith o wirfoddolwyr o gwmpas y wlad a all fod yn asgwrn cefn i’r drefniadaeth newydd.

Diabetes yng Nghymru

Mae yna gadarnhad fod 177,000 o bobl yn byw gyda Diabetes yng Nghymru. Mae amcangyfrifon yn cynnig bod rhyw 70,000 yn ychwanegol gyda Diabetes ond heb wybod hynny ac heb gael diagnosis.

Ar ben hynny mae rhyw 54,000 o bobl a all fod yn debygol iawn o ddatblygu’r afiechyd ac mae niferoedd yn codi bob blwyddyn. Os yw’r tueddiadau cyfredol yn parhau, bydd rhyw 300,000 o bobl Cymru gyda Diabetes erbyn 2025.

Mae Diabetes yn gyfrifol am 10% o gyllideb blynyddol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru—tua £500m y flwyddyn. Gwerir 80% o’r arian yma ar ddelio gyda chymhlethdodau’r afiechyd, y rhan fwyaf ohonynt y gellid eu hosgoi.

Mae Diabetes yn cael effaith handwyol ddifrifol ar fywydau pobl bob dydd ac mae’n dinistrio ansawdd bywyd dioddefwyr. Gyda ychydig o ymdrech, ymarfer corff cymhedrol a bwyta’n iach, gall effeithiau yr afiechyd gael eu lliniaru bron yn llwyr, gan wella ansawdd bywyd i gleifion ac osgoi y boendod o gymhlethdodau meddygol.

Y Cynllun

  • 1/ I sefydlu safle wê ddwyieithog newydd a fydd yn esblygu i fod yn adnodd addysgiadol safonol ac yn asgwrn cefn gweinyddol i drefniadaeth y rhwydwaith newydd.
  • 2/ I gydlynnu gyda Llywodraeth Cymru,Y Gwasanaeth Iechyd a rhanddeiliaid eraill i gytuno ar bolisiau a chanllawiau derbyniol i’r rhwydwaith newydd sy’n cynwys yr ymarferion credadwy diweddaraf ar liniaru Diabetes drwy newidiadau mewn ffordd o fyw.
  • 3/ I sefydlu grwp cefnogaeth yn y gymuned lle bynnag mae hynny’n ymarferol drwy Gymru. Bydd pob grwp yn mabwysiadu cyfansoddiad safonol ac yn perthyn i Cymorth Diabetes Cymru. Bydd y sefydliad canolog yn darparu adnoddau addysgiadol, siaradwyr arbenigol, digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol a safle wê safonol ar gyfer pob grwp.
  • 4/ I gychwyn y gwaith a chreu cyhoeddusrwydd, bydd Cymorth Diabetes Cymru yn trefnu cynhadledd genedlaethol flynyddol, presenoldeb mewn digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a dau ddigwyddiad cenedlaethol, Diabetes 2018 and Diabetes 2019.

Mae Cymorth Diabetes Cymru ar hyn o bryd yn chwilio am gyllid i ddatblygu y cynllun ac rydym mewn trafodaethau cynnar gyda nifer o gyrff cyhoeddus a phreifat drwy Gymru. Rydym yn credu y bydd gweithredu y cynllun yn dod a gwelliannau allweddol i gleifion yng Nghymru ac yn lleihau y galw ar adnoddau Y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.

Mae yna ddadl gryf y byddai buddsoddi mewn dulliau atal yn awr yn talu yn ôl ar ei ganfed maes o law. I allu denu y buddsoddiadau angenrheidiol i gefnogi y cynllun, mae’n rhaid i ni allu sefydlu ei hygrededd. Mae’n rhaid gallu dangos fod y newidiadau arfaethiedig yn effeithiol ac fod gweithredu yn gymunedol yn llwyddo i addysgu a chymhellu pobl i wneud newidiadau tymor hir yn eu hymddygiad.

Bydd hyn i gyd yn cael ei atgyfnerthu gyda chysylltiadau gyda phartneriaid credadwy drwy Brydain ac yn rhyngwladol a byddwn yn rhan o symudiad byd eang i wella iechyd drwy fwyta yn iachach a gwneud ymarfer corff.