Datganiad wedi ei ryddhau ar y 3ydd o Dachwedd, 2017
Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid ydym yn argymell—ac nid ydym erioed wedi argymell—deiet ‘dim carb’. Rydym yn cymeradwyo’r egwyddor ehangach o gyfyngu carbohydradau yn gyffredinol a deiet Carb Isel a Braster Uchel (LCHF) yn benodol, ynghyd ag ymarfer corff cymedrol, fel modd o gynnal lefel siwgr yn y gwaed iach, sy’n allweddol i liniaru cymhlethdodau tymor hir y clefyd. Rydym yn dilyn ac yn cymeradwyo The Public Health Collaboration a hefyd y Rhaglen Carb Isel.
Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Sefydliad Noakes, ‘Diabetes Unpacked’ hefyd wedi llywio ein hymagwedd a’n harwain.
Mae gan y system yma hanes cadarn o ostwng lefelau siwgr yn gwaed, lleihau pwysedd gwaed uchel, lleihau colesterol LDL niweidiol a gwella lefelau colesterol HDL buddiol. Bu hefyd yn llwyddiannus iawn wrth helpu dioddefwyr diabetes i golli pwysau ac adennill lefelau egni a gollwyd.
Mae gwaith Dr David Unwin gyda grwpiau cymorth, a’r gwelliannau i fywydau cleifion y mae wedi cyflawni dros bum mlynedd, yn ysbrydoliaeth barhaus am werth newidiadau syml o ran ffordd o fyw.
Mae LCHF hefyd wedi’i chymeradwyo gan Diabetes UK ar eu gwefan eu hunain ym mis Mai 2017:
“Mae’r dystiolaeth gyfredol yn awgrymu y gall dietau carb isel fod yn ddiogel ac yn effeithiol i bobl â Diabetes Math 2. Gallant helpu gyda cholli pwysau a rheoli glwcos, a lleihau’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd. Felly, gallwn argymell diet carb isel i rai pobl â diabetes Math 2.”
Mae Diabetes.cymru yn is-adran o Diabetes Support (Wales) Limited, cwmni annibynnol, a nodir hyn yn glir ar ein gwefan ac ym mhob gohebiaeth. http://diabetes.cymru yw ein cyfeiriad gwefan cofrestredig ac rydym yn llwyr berchen arni.
Ein rôl ni yw creu grwpiau cefnogi ar gyfer dioddefwyr Diabetes ledled Cymru; i ddarparu addysg a gwybodaeth ffordd o fyw i’n haelodau; i gynorthwyo’r aelodau i wneud dewisiadau ffordd o fyw gwybodus; a darparu’r gefnogaeth a’r cymhelliant i helpu pobl i frwydro yn erbyn eu clefyd. Bwriad ein rôl yw ategu’r ymdrechion presennol i fynd i’r afael â’r hyn sy’n broblem ddifrifol gynyddol ac rydym yn hapus i barhau i drafod ffyrdd o osgoi dryswch ynghylch ein brandio â Diabetes UK Cymru a phartïon eraill â diddordeb. Mae ein ffocws ar helpu dioddefwyr diabetes i wneud dewisiadau ffordd o fyw yn newid bywyd a fydd o fudd i’r claf ac yn lleihau cost triniaeth.
Nid ydym yn cynnig cyngor meddygol—rydym yn cydweithredu â gweithwyr meddygol proffesiynol wrth gynorthwyo cleifion i helpu eu hunain. Anogir pob un o’n haelodau i drafod unrhyw newidiadau y gallent fod eisiau eu gwneud yn eu ffordd o fyw gyda’u meddyg teulu cyn gwneud newidiadau.
Canlyniad arferol dioddefwr diabetes Math 2 sy’n mabwysiadu ffordd o fyw carb isel yw eu bod yn gallu lleihau meddyginiaeth yn eithaf cyflym, ac yn peidio â chymryd meddyginiaeth yn llwyr mewn sawl achos, dros gyfnod o amser. Mae dioddefwyr Diabetes Math 1 hefyd yn gallu lleihau eu dosau inswlin yn sylweddol trwy leihau eu carbohydradau. Credwn, trwy leihau baich cyffuriau costus i’r Gwasanaeth Iechyd, gall ffordd o fyw LCHF helpu cleifion i helpu eu hunain ond hefyd i helpu’r wlad gyfan. Mae hyn cyn i ni ystyried baich yr holl gymhlethdodau costus ac annymunol sy’n effeithio ar ryw 200,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae fy siwrnai fy hun fel diabetig Math 2 wedi fy arwain i ddeall difrifoldeb y clefyd ac i fabwysiadu diet LCHF yn fwy fwy, ac rwy’n ddiolchgar i’r BBC am ddwy raglen a helpodd fi’n sylweddol:
Diabetes: The Hidden Killer
BBC Panorama
a
Fats v Carbs
BBC Wales
Rydym yn teimlo’n siomedig am honiadau Diabetes UK gan fod yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy newidiadau syml mewn ffordd o fyw a diet.
Nid ydym yn gwneud sylwadau ar adroddiadau trydydd parti di-dystiolaeth, ond rydym yn parhau i fod yn barod iawn i drafod ac adolygu ein harferion gwaith yng ngoleuni ein profiad.
Yn gywir,
Eryl Vaughan
Cyfarwyddwr, Diabetes Support (Wales) Ltd